Difrod i barc gan JCB oedd wedi'i ddwyn yng Nghasnewydd

Parc Chwarae Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd y JCB wedi cael ei weld yn difrodi ffram chwarae yn y parc

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod tractor JCB wedi cael ei ddwyn oddi ar safle adeiladu cyn cael ei ddefnyddio i ddifrodi parc chwarae yng Nghasnewydd.

Fe wnaeth trigolion yn ardal Black Ash o'r ddinas ffonio'r heddlu ar ôl gweld criw o bobl ifanc yn defnyddio'r JCB i ddifrodi ffens a goliau pêl-droed.

Roedd y sawl oedd yn cael eu cyhuddo o ddefnyddio'r JCB wedi dianc o'r ardal cyn i'r heddlu gyrraedd y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Alan Morris mai'r bobl ifanc fydd yn dioddef gan fod "cyn lleied" o adnoddau yn yr ardal.

Mae 'na apêl am dystion wedi cael ei wneud.

Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd goliau pêl-droed wedi cael eu difrodi yn y parc

Pynciau Cysylltiedig