Codi ymwybyddiaeth am y Delyn Deires
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Codi ymwybyddiaeth am y Delyn Deires yn Nyffryn Conwy

26 Chwefror 2019 Diweddarwyd 21:36 GMT

Mae 'na gynllun arbennig ar waith yn Nyffryn Conwy i godi ymwybyddiaeth am delynau Cymreig, a'r Delyn Deires yn arbennig.

Mae rhai arbenigwyr yn honni mai'r math yma ydy gwir delyn Cymru, nid y delyn bedal.

Canrifoedd yn ôl roedd nifer o seiri telynau yn byw yn Llanrwst, a dyna pam fod yna ymdrech i godi ymwybyddiaeth am y delyn arbennig yma yn yr ardal.