Ieithoedd lleiafrifol: 'Dilyn esiampl' y Gymraeg

cymraeg

Mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn "dilyn esiampl" Cymru wrth frwydro dros hawliau iaith, yn ôl ymgyrchydd o fudiad sy'n hyrwyddo'r Wyddeleg.

Dyna oedd sylwadau Réamonn Ó Ciaráin o Gael Linn ddydd Llun, wrth iddo ddweud bod y frwydr dros hawliau'r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yn ei atgoffa o sefyllfa Cymru rhai degawdau'n ôl.

Mae Mr Ó Ciaráin yn gweithio i fudiad sy'n hyrwyddo defnydd o'r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd cynrychiolydd o'r Urdd bod deddfwriaeth ieithyddol yng Nghymru yn "flaenllaw", ond bod "lle i wella".

Image caption Mae Feargal Mac Ionnrachtaigh yn gyfrifol am Glór Na Móna, mudiad sy'n hyrwyddo'r Wyddeleg yn Belfast

Yn ôl Mr Ó Ciaráin, mae'r frwydr dros hawliau'r Wyddeleg yn ei atgoffa o'r frwydr dros hawliau'r Gymraeg ar ddiwedd yr 20fed ganrif.

"Rydym yn ymwybodol bod gwrthwynebiad i'r iaith Gymraeg ychydig ddegawdau yn ôl - ond mae hynny i weld wedi diflannu," meddai.

"Felly rydym am ddilyn esiampl yr hyn mae ymgyrchwyr wedi gwneud yma yng Nghymru."

Hefyd yn bresennol yn y gynhadledd ym Mae Caerdydd i fudiadau sy'n hyrwyddo ieithoedd lleafrifol Ewrop oedd Feargal Mac Ionnrachtaigh o fudiad Glór Na Móna yn Belfast.

Dywedodd bod Glór Na Móna yn wynebu "anhyblygrwydd" wrth geisio datblygu canolfan ieuenctid Wyddeleg.

"Rydym ni'n derbyn ceiniogau o'i gymharu â faint mae grwpiau tebyg sy'n gweithio drwy'r Saesneg yn ei gael," meddai.

Ychwanegodd bod "ganddon ni'r niferoedd a rydym yn llenwi'r meini prawf i dderbyn mwy o gyllid", ond bod diffyg blaengaredd i gyllido grŵp ieuenctid Gwyddeleg.

Image caption Graffiti yn Belfast yn galw am deddf iaith

Beth yw sefyllfa Gogledd Iwerddon?

Mae anghytuno dros ddeddf ar yr iaith Wyddeleg yn un o'r rhesymau sydd wrth gefn cwymp Llywodraeth Gogledd Iwerddon, gyda'r DUP yn gwrthwynebu'r cynnig.

Fe fyddai'r ddeddfwriaeth a gynigir gan Sinn Féin yn caniatáu i ddisgyblion dderbyn addysg mewn Gwyddeleg, y defnydd o Wyddeleg mewn llys a chyflwyno arwyddion cyhoeddus dwyieithog.

Heb ddeddfwriaeth swyddogol, mudiadau fel rhai Mr Ó Ciaráin a Mr Ionnrachtaigh sy'n gyfrifol am hyrwyddo a gwarchod yr iaith.

Image caption Dywedodd Domnhall MacNeill bod ei brofiadau yn Yr Alban yn debyg i Iwerddon

Dyw profiadau Domnhall MacNeill o Comunn na Gaidhlig yn Yr Alban ddim yn annhebyg i'r mudiadau yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd Mr MacNeill bod gwleidyddion yn "gyndyn o ddangos cydymdeimlad i Aeleg yr Alban" a bod diffyg cyllid i fudiadau Gaeleg.

"Os ydych chi'n cynnal gweithgareddau i bobl ifanc trwy'r Aeleg, mae'n well i chi beidio sôn am yr agwedd ieithyddol neu bydd y cyllidwyr ddim eisiau gwybod."

'Anwybodaeth'

Yn ôl yr ymgynghorydd Meriel Young, mae 'na "anwybodaeth" ymysg Albanwyr sydd ddim yn siarad Gaeleg.

"Dyw rhan fwyaf o Albanwyr ddim yn gweld arwyddion neu lythyrau dwyieithog fel sy 'na yma yng Nghymru, ac mae hynny yn rhan o'r broblem.

"Does gan llawer o bobl ddim cysylltiad â Gaeleg - ond mae Cymru yn llwyddo i wneud hynny â'r Gymraeg."

Roedd profiadau mudiadau Cymreig yn llawer fwy cadarnhaol na profiadau y rhai y tu hwnt i Gymru.

Dywedodd cadeirydd Mentrau Iaith, Lowri Jones: "Ydy, mae hi'n mynd yn fwy a fwy cystadleuol o ran cyllidwyr - ond 'da ni hefyd yn gweld cyllidwyr yn cydnabod yr angen i gynyddu'r cyfleoedd yna i ddefnyddio'r Gymraeg."

Ond wrth i'r ymgyrch i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 barhau, mae Catrin James o Urdd Gobaith Cymru yn ffyddiog y gall mwy gael ei wneud.

"O'i gymharu â rhai o'n ffrindiau - da ni yn fwy blaenllaw o ran ein deddfwriaeth ieithyddol, ond mae lle i wella.

"Mae lle i ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol i'w llawn botensial hefyd."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol