Cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

Georgina Elaine Coombs/M4 Image copyright Heddlu Gwent/Google
Image caption Mae'n debyg fod Georgina Elaine Coombs wedi gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar yr M4

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dynes 38 oed o Gwmbrân fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd nos Wener.

Bu farw Georgina Elaine Coombs wedi i'w char Vauxhall Astra arian fod mewn gwrthdrawiad â BMW du rhwng cyffyrdd 26 a 27 am 22:40.

Yn ôl adroddiadau roedd Ms Coombs, mam i ddau o blant, yn gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar y ffordd.

Mae dyn 21 oed o ardal Coed-duon, oedd yn teithio yn y BMW, yn parhau yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol