Pryder 'chwalfa ariannol' o ganlyniad i'r Ffi Benthyciad

Arian Image copyright Getty Images
Image caption Bydd y Ffi Benthyciad yn dod i rym ar 5 Ebrill

Mae gweithwyr hunangyflogedig o Gymru'n dweud eu bod yn wynebu chwalfa ariannol ar ôl defnyddio cynlluniau i osgoi treth, heb fod yn ymwybodol o hynny.

Yn ôl un fe allai wynebu bil o ryw £200,000 er ei bod yn mynnu iddi wneud dim arian o'r cynllun, ac mae un arall yn poeni y bydd yn colli ei dŷ.

Y gred ydy y bydd o leiaf 1,000 o weithwyr hunangyflogedig yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan fesur "Ffi Benthyciad" Llywodraeth y DU sy'n dod i rym ym mis Ebrill gyda'r bwriad o adennill treth.

Yn ôl yr Adran Cyllid a Thollau (HMRC), mae'n annheg ar drethdalwyr arferol i ganiatáu unrhyw un wnaeth gymryd mantais o gynlluniau i osgoi treth, ac felly dyna pam bod y llywodraeth yn gweithredu i sicrhau bod pawb yn talu'r trethi sy'n ddyledus.

Beth yn union sy'n digwydd?

Mesur ydy Ffi Benthyciad 2019 i geisio mynd i'r afael â ffordd benodol o osgoi treth, sy'n cael ei adnabod fel "cyflog cudd" neu "cynlluniau benthyg".

Y drefn gyffredin ydy:

  • Mae cyflogwr yn talu arian i gwmni ymbarél;
  • Mae'r cwmni ymbarél yna'n talu'r gweithiwr hunangyflogedig ar ffurf "benthyciad";
  • Gan nad yw'r cwmni wedi talu "cyflog", does dim rhaid i'r cyflogwr dalu yswiriant cenedlaethol;
  • Dydy'r gweithiwr hunangyflogedig chwaith ddim yn talu treth nac yswiriant cenedlaethol ar y "benthyciad", cyn belled eu bod yn talu "llog" - sydd fel arfer yn llai na fyddai'r dreth;
  • Yn ôl HMRC, ni gafodd y "benthyciadau" eu talu yn ôl, felly cyflog cudd oedd yr arian;
  • Ond mae nifer o weithwyr yn dweud eu bod wedi gorfod talu ffi i'r cwmnïau ac felly ddim wedi cael budd ariannol, dim ond yr hwylusrwydd gweinyddol.
Image copyright Getty Images
Image caption Mae rhai yn pryderu nad oes ganddyn nhw'r arian i dalu'r llywodraeth

Fe gyflwynodd Llywodraeth y DU Ffi Benthyciad 2019 yn y Mesur Cyllid 2017.

Mae'n golygu bod yn rhaid i'r holl dreth incwm ac yswiriant cenedlaethol ar daliadau'n dyddio 'nôl i 1999 gael ei dalu cyn Ebrill 2019.

O 5 Ebrill ymlaen, bydd ffi ychwanegol yn cael ei gyflwyno ar unrhyw fenthyciadau sydd ddim wedi cael eu talu yn ôl.

Yn ôl y grŵp ymgyrchu Loan Charge Action Group (LCAG) roedd contractwyr yn datgan y benthyciadau yma ar ei ffurflenni treth ond mae'r mesur yn golygu bod miloedd yn wynebu gorchmynion ariannol enfawr, ac o bosib, chwalfa ariannol.

Fodd bynnag, mae HMRC yn dweud bod cynlluniau ad-dalu hyblyg ar gael i unrhyw un sydd wir yn ei chael yn anodd talu'r arian yn ôl, gan annog pobl i ddod i gytundeb gyda nhw cyn gynted â phosib.

Maen nhw'n dweud bod y setliad cyffredin tua £13,000.

'Dinistriol'

Dydy "Hannah" o dde Cymru, sydd ddim eisiau cael ei hadnabod, na "James" sy'n byw yn y gogledd-orllewin, ddim wedi derbyn cynnig am setliad eto.

Bu'r ddau yn talu ffïoedd fel rhan o'u cynlluniau benthyg ac mae'r ddau'n honni iddyn nhw beidio â chael budd ariannol o ddefnyddio'r cynlluniau.

Yn ôl "Hannah", mae darganfod bod HMRC yn gofyn am arian ganddi wedi cael effaith enfawr ar ei bywyd.

"Mae'n ddinistriol. Dyna yw'r peth cyntaf rwy'n meddwl amdano yn y bore a'r peth olaf sydd ar fy meddwl gyda'r nos. Trwy'r dydd, pob dydd.

"Fe wnawn ni golli'r tŷ, mae hynny'n amlwg. Bydd yn rhaid i ni symud. Y gwir ydy, does gennym ni ddim yr arian i dalu."

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd HMRC bod y setliad cyffredin tua £13,000

Mae "James" hefyd yn dweud y byddai talu'r holl arian yn ôl yn niweidiol dros ben.

"Ti methu symud ymlaen tan ti'n gwybod y bydd gen ti gartref. Does gen i ddim pensiwn, dim arian wrth gefn," meddai.

"Os oedden nhw [y cynlluniau benthyg] yn beryglus neu'n anghyfreithlon, pam nad oedd hynny'n cael ei hysbysebu?"

Galw am reoleiddio

Yn ôl Jolyon Maugham, bargyfreithiwr treth a chyfarwyddwr y Good Law Project, mae angen mwy o reoleiddio ar y diwydiant cynghori ar dreth.

"Y rheswm mae'r cynlluniau yma'n parhau mewn bodolaeth ac y byddan nhw'n parhau i fod - oni bai bod y llywodraeth yn gwneud newid - ydy'r ffaith nad ydy rhoi cyngor ynglŷn â threth wedi'i reoleiddio," meddai.

"Mae unrhyw un - gan gynnwys troseddwyr - yn gallu rhoi cyngor ynglŷn â threth, yn gallu gwerthu cynnyrch treth neu gam-werthu cynnyrch treth, ac maen nhw'n gwneud hynny yn gwybod eu bod yn gallu cerdded i ffwrdd gyda'r holl gomisiwn heb fod ag unrhyw gyfrifoldeb."

'Dal yn y canol'

Mae HMRC yn dweud ei bod wedi atal nifer o hyrwyddwyr rhag gwerthu cynlluniau i osgoi treth yn ddiweddar.

Yn ôl pennaeth Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Cofrestredig yng Nghymru, Lloyd Powell, mae'n debyg bod nifer wedi cael eu dal mewn sefyllfa lle doedd dim dewis ond defnyddio'r cynlluniau.

"Mewn rhai achosion, fe gafodd gweithwyr eu gosod ar y cynlluniau yma gan rheiny oedd yn eu cyflogi ar y pryd.

"Naill ai eu bod yn derbyn hynny neu doedd dim gwaith. Roedden nhw [y gweithwyr] wedi eu dal yn y canol."

Pynciau Cysylltiedig