Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A48

Michael Watkins Image copyright Heddlu Dyfed-powys
Image caption Roedd Michael Watkins yn dod o ardal Cross Hands

Mae'r heddlu wedi cadarnhau enw cerddwr fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A48 ger Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul.

Bu farw Michael Watkins, 35 oed o ardal Cross Hands, mewn gwrthdrawiad â cherbyd ar y lôn ddwyreiniol ger cyffordd Cwmgwili am tua 01:20.

Dywedodd yr heddlu fod Mr Watkins wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol