Gwrthdrawiad angheuol ar yr A48 ger Cross Hands

Cyffordd Cwmgwili Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A48 cyn cyffordd Cwmgwili

Bu farw cerddwr yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A48 ger Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn ystod oriau mân fore Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y cerddwr â cherbyd ar y lôn ddwyreiniol ger cyffordd Cwmgwili oddeutu 01:20.

Mae Uned Plismona'r Ffyrdd yn awyddus i unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Bydd angen i lygad-dystion ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20190224-34.