Buddugoliaeth i Lee Selby yn erbyn Omar Douglas

Douglas a Selby Image copyright Reuters
Image caption Buddugoliaeth i Selby (dde) er gwaethaf hyder cychwynnol Douglas

Er gwaethaf clwyfau uwchben ei ddwy lygad, llwyddodd Lee Selby i guro Omar Douglas yn ei ornest gyntaf fel paffiwr pwysau ysgafn.

Cododd Selby, 32 oed, dau ddosbarth pwysau wedi iddo golli ei deitl pencampwr paffio pwysau plu'r byd yn erbyn Josh Warrington ym mis Mai llynedd.

Roedd ymwybyddiaeth Selby o bellter a'i allu i osgoi cael ei fwrw yn allweddol wrth guro hyder cychwynnol Douglas.

Dywedodd Selby mai Douglas oedd un o'i wrthwynebwyr "caletaf", a'i fod yn gobeithio gallu ennill teitl pencampwr byd eto, er ei fod yn "dal i ddysgu".

Pynciau Cysylltiedig