Apêl am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol ar M4

Rhwng cyffordd 26 a 27 Image copyright Google
Image caption Roedd un o'r gyrwyr yn teithio'r ffordd anghywir i lawr lôn orllewinol yr M4 yn ôl adroddiadau

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar lôn orllewinol yr M4, rhwng cyffordd 26 a 27 ger Casnewydd.

Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 22:30 nos Wener at wrthdrawiad rhwng BMW du a Vauxhall Astra arian

Yn ôl adroddiadau, roedd y Vauxhall Astra yn gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar hyd y lôn.

Bu farw dynes 38 oed o Gwmbrân oedd yn teithio yn y Vauxhall Astra yn y fan a'r lle.

Cafodd teithwyr yn y BMW - dyn 21 oed o ardal Coed-duon - ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w goes a'i glun.

Mae'r heddlu'n awyddus i yrwyr â fideo dash-cam neu unrhyw un ag unrhyw wybodaeth bellach i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu gysylltu dros gyfryngau cymdeithasol Heddlu Gwent.

Pynciau Cysylltiedig