Pro 14: Gweilch 13-19 Munster

Hanno Dirksen Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Hanno Dirksen sgoriodd unig gais y Gweilch

Mae colled gartref yn erbyn Munster yn ergyd arall i obeithion y Gweilch o gyrraedd y gemau ail gyfle yn y Pro 14.

Llwyddodd tîm Allen Clarke i ennill pwynt bonws, ond roeddynt yn wastraffus wrth ymosod ac yn methu yn glir a manteisio ar gamgymeriadau'r ymwelwyr.

Aeth Munster ar y blaen yn fuan yn yr hanner cyntaf diolch i gais Darren Sweetnam, cyn i'r Gweilch daro 'nol drwy Hanno Dirksen.

Pedwar munud cyn hanner amser fe sgoriodd Munster cais gosb ar ôl trosedd Sam Cross.

Er i gic gosb Luke Price ddod a'r Gweilch o fewn pwynt o'r ymwelwyr wedi 62 munud, roedd cais hwyr gan Mike Haley yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i Munster a'u cadw ar frig y tabl.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol