Rhedwyr hanner marathon 'wedi marw o achosion naturiol'

Ben Fletcher (chwith) a Dean Fletcher gyda'i deulu Image copyright BBC / Lluniau teulu
Image caption Ben McDonald (chwith) a Dean Fletcher, gyda'i deulu

Mae ymchwiliad crwner wedi dod i'r casgliad bod dau ddyn a fu farw ar ôl gorffen Hanner Marathon Caerdydd y llynedd wedi marw o achosion naturiol.

Roedd Ben McDonald, 25 oed ac o Gaerdydd, a Dean Fletcher, oedd yn 32 oed ac o Gaerwysg, wedi cael ataliad ar y galon ar ôl croesi'r linell derfyn, a hynny o fewn tair munud o'i gilydd.

Cafodd y ddau driniaeth frys yn y fan a'r lle cyn cael eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle buon nhw farw.

O ganlyniad i gasgliad yr ymchwiliad gan Grwner Ei Mawrhydi Powys, Pen-y-bont ar Ogwr a Chymoedd Morgannwg, ni fydd cwest yn cael ei gynnal i'r marwolaethau.

Dywedodd trefnwyr y ras, Run 4 Wales oriau wedi'r marwolaethau eu bod am adolygu trefniadau'r digwyddiad.

Straeon perthnasol