Apelio eto wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro

Johnston Image copyright Google

Mae'r heddlu wedi apelio o'r newydd am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro nos Fercher.

Bu farw person wedi gwrthdrawiad am 23:10 rhwng cerbyd a cherddwr ar ffordd yr A4076 yn Johnston, ger Hwlffordd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach eisiau siarad gyda gyrrwr wnaeth bigo dynes i fyny ger cyffordd Glebelands, gyferbyn â siop Nisa, am tua 20:30.

Fel rhan o'r ymchwiliad, dywedodd yr heddlu eu bod yn ceisio cadarnhau symudiadau dynes 25 oed cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol