Dwsinau o ddefaid beichiog wedi'u dwyn o fferm ym Mhowys

Welsh type mule ewe with suffolk lambs at foot Image copyright Getty Images
Image caption Defaid tebyg i'r un yma ar y chwith gafodd eu dwyn o'r fferm

Mae heddlu'n ymchwilio wedi i 46 o ddefaid beichiog gael eu dwyn oddi ar fferm yng ngogledd Powys.

Cafodd swyddogion o dîm troseddau gwledig Heddlu Dyfed Powys wybod am y digwyddiad yn Llanfechain ar ddydd Sadwrn, 16 Chwefror.

Ond mae'n debyg bod y defaid Cymreig wedi eu dwyn rhyw bryd ym mis Ionawr neu Chwefror.

Mae'r defaid wedi cael eu marcio gyda lliw coch ar ganol eu cefnau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig