Leigh Halfpenny i ddychwelyd o anaf i'r Scarlets

Leigh Halfpenny Image copyright Getty Images
Image caption Mae Leigh Halfpenny wedi bod yn absennol ers iddo ddioddef cyfergyd yn y gêm rhwng Cymru ac Awstralia ar 10 Tachwedd

Bydd Leigh Halfpenny yn dychwelyd i chwarae i'r Scarlets yn y Pro14 ddydd Sul yn dilyn cyfnod allan gydag anaf.

Dyw'r cefnwr 30 oed heb chwarae ers iddo ddioddef cyfergyd yn y gêm rhwng Cymru ac Awstralia ar 10 Tachwedd.

Bydd yn wynebu'r Cheetas ym Mharc y Scarlets ddiwrnod ar ôl i Gymru herio Lloegr yn Stadiwm Principality ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, bod Halfpenny yn "teimlo'n rhwystredig iawn" wedi iddo fethu chwarae ers deufis a chael cyfnodau'n gweld arbenigwr cyfergyd.

Er i Halfpenny fod nôl mewn sesiynau hyfforddi, daeth swyddogion meddygol i'r casgliad fod y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn rhy gynnar iddo ddychwelyd i'r tîm cenedlaethol.

Yn absenoldeb Halfpenny mae Liam Williams wedi bod yn chwarae yn safle'r cefnwr i Gymru.

Straeon perthnasol