Heddlu'n ymchwilio wedi digwyddiad yng nghanol Caerdydd

heddlu

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i adroddiadau fod dyn wedi'i gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd.

Fe gafodd swyddogion eu galw i Heol Eglwys Fair a Wood Street yn y brifddinas am 02:00 fore Gwener.

Mae llanc 17 oed o Grangetown wedi cael ei arestio ar amheuaeth o glwyfo dyn 33 oed o ardal Birmingham yn fwriadol.

Roedd y ffordd ar gau am rai oriau wrth i'r heddlu ymchwilio. Mae'r dyn bellach wedi cael mynd adre o'r ysbyty.

Pynciau Cysylltiedig