Pro14: Scarlets 43-21 Cheetahs

Leigh Halfpenny Image copyright Huw Evans Agency

Llwyddodd y Scarlets i ddal eu tir yn erbyn y Cheetahs ym Mharc y Scarlets, wrth groesawu Leigh Halfpenny yn ôl i chwarae am y tro cyntaf ers iddo ddioddef o gyfergyd.

Ac roedd hi'n gêm lwyddiannus i Halfpenny hefyd, a lwyddodd i drosi pedair cais a sgorio un gic gosb.

Fe wnaeth chwe chais gan Uzair Cassiem, Johnny McNicholl, Kieron Fonotia, Josh Macleod, Wyn Jones a Paul Asquith sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Crysau Cochion.

O ganlyniad, mae'r fuddugoliaeth pwynt-bonws yn galluogi'r Scarlets i leihau'r bwlch rhyngddynt a'r tri ar frig tabl Adran B y Pro 14.

Pynciau Cysylltiedig