Chwe Gwlad: Merched Cymru 12-51 Merched Lloegr

Merched Cymru yn erbyn Merched Lloegr Image copyright Stu Forster
Image caption Manteisiodd tîm Lloegr ar fylchau di-ri i sicrhau'r fuddugoliaeth

Er gwaethaf dau gais drawiadol gan ferched Cymru, colli bu eu hanes yn erbyn merched Lloegr ym Mharc yr Arfau.

Bu pum newid i'r tîm cyn herio Lloegr, gyda'r blaenasgellwr Alex Callender yn dechrau am y tro cyntaf.

O fewn chwe munud, sgoriodd Sarah Bern y gais gyntaf i'r ymwelwyr, gydag ail gan Jess Breach yn fuan wrth ei chwt.

Taranodd Lloegr ar hyd y cae gan fanteisio ar gyfleoedd di-ri i sgorio, gyda cheisiadau pellach gan Marlie Packer, Breach a Bern yn codi'r sgôr.

Image copyright Stu Forster
Image caption Doedd dim modd rhwystro merched Lloegr rhag sgorio cais ar ôl cais yn ystod gêm gyflym

Fodd bynnag, sgoriodd Jess Kavanagh y gais gyntaf i Gymru munudau'n unig cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Er gwaethaf newid mewn momentwm i Gymru yn ystod yr ail hanner, llwyddodd Poppy Cleall, Abigail Dow a Sarah Beckett i sgorio ceisiadau pellach i'r ymwelwyr.

Doedd ail gais munud olaf i Gymru gan Cerys Hale ddim yn ddigon i leihau'r bwlch a sicrhau'r fuddugoliaeth, yn enwedig gyda Katy Daley-Mclean yn hawlio cais olaf y gêm i orffen yr ornest.

Straeon perthnasol