Adran Dau: MK Dons 2-0 Casnewydd

Michael Flynn Image copyright Tony Oudot/Huw Evans Agency
Image caption Canlyniad siomedig i dîm Michael Flynn yn erbyn MK Dons

Er i Gasnewydd obeithio am ail fuddugoliaeth yn olynol oddi cartref, colli bu eu hanes yn erbyn Milton Keynes Dons yn Stadiwm MK

Roedd hi'n hanner cyntaf ddi-sgôr, wedi i Joe Day arbed cic o'r smotyn Kieran Agard i MK Dons rhag cyrraedd y gôl.

Llwyddodd Day hefyd i gadw peniad David Wheeler rhag ei gyrraedd, ond fe sgoriodd Ousseynou Cissé i'r tîm cartref yn yr ail hanner.

Munudau cyn y chwiban olaf, llwyddodd Chuks Aneke hefyd i sgorio, gyda dyfalbarhad MK Dons yn amlwg yn talu ar ei ganfed, gan eu rhoi'n bedwerydd ar dabl Adran Dau, gan adael Casnewydd yn y 15fed safle.

Maent hefyd yn unioni eu cam wedi buddugoliaeth Casnewydd yn eu herbyn ar Rodney Parade bythefnos yn ôl.