Sheffield Wednesday 3-1 Abertawe

Daniel James Image copyright Athena Pictures
Image caption Daeth Daniel James yn agos at sgorio yn yr hanner cyntaf - ond ddim yn ddigon agos

Colli bu hanes Abertawe yng nghartref Sheffield Wednesday yn Stadiwm Hillsborough brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Adam Reach dwy gôl gyntaf y gêm i'r tîm cartref yn ystod yr hanner cyntaf, gyda chic dros ben gan Steven Fletcher yn ychwanegu trydydd at y sgôr.

Adeiladodd yr asgellwr Daniel James ar ei berfformiad yr wythnos cynt yn erbyn Brentford, gan ddod yn agos at y gôl unwaith neu ddwy, ond roedd hi'n ddechrau fflat i dîm Abertawe ar y cyfan.

Roedd hi'n ddechrau gwell i'r ail hanner, ond fe fethodd Abertawe unioni'r sgôr, serch gôl gan Oliver McBurnie i'r Elyrch.