Pro14: Benetton 57-7 Dreigiau

Siom i'r Dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Siom i'r Dreigiau wedi iddynt ond lwyddo i sgorio un cais yn unig yn erbyn Benetton

Roedd hi'n golled boenus i'r Dreigiau yn erbyn Benetton yn Stadiwm Comunale di Monigo yn yr Eidal, wedi i'r tîm cartref achub y blaen o'r dechrau'n deg.

Sgoriodd Antonio Rizzi'r gais gyntaf, a arweiniodd at yr ail gan Ratuva Tavuyara o fewn munudau.

Nid oedd unig gais y Dreigiau gan Will Talbot-Davies na chic lwyddiannus Jason Tovey yn ddigon i gau'r bwlch, wrth i Benetton sicrhau'r pwynt bonws gyda cheisiadau Luca Sperandio a Monty Ioane cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Parhau wnaeth teyrnasiad y tîm cartref ar y cae drwy gydol yr ail hanner, gyda'r fuddugoliaeth yn sicrhau lle yn ail safle tabl Adran B y Pro14 iddynt.

Pynciau Cysylltiedig