Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro

Car heddlu

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro ddydd Mercher.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 23:10 rhwng cerbyd a cherddwr ar ffordd yr A4076 yn Hwlffordd.

Bu farw'r cerddwr yn y fan ar lle, ac mae'r llu yn apelio am unrhyw dystion oedd yn teithio ar y ffordd bryd hynny.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig