Lansio cwch newydd i ddiogelu moroedd Cymru

Y Foneddiges Megan
Image caption Mae'r gwch newydd wedi costio £3m i'w hadeiladu

Mae cwch newydd fydd yn gorfodi cyfraith pysgodfeydd a chyfraith forwrol ar hyd a lled arfordir Cymru wedi'i lansio.

Bydd FPV Lady Megan, sydd wedi'i henwi ar ôl yr AS benywaidd cyntaf i gynrychioli Cymru, Megan Arvon Lloyd George, yn ymuno gyda FPV Rhodri Morgan a FBV Catrin ar hyd arfordir Cymru.

Mae'r cwch newydd wedi costio £3m i'w hadeiladu, a bydd hi'n gwasanaethu yn lle FPV Aegis fydd yn cael ei rhoi i lywodraeth Liberia.

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, Lesley Griffiths ei bod hi'n bwysig i Gymru ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf er mwyn sicrhau fod cyfreithiau morwrol a physgodfeydd yn cael eu gweithredu'n effeithiol.

'Rhodd caredig'

Mae'r FPV Lady Megan yn pwyso 56 tunnell ac yn gallu cyrraedd cyflymdra o 28 not wrth hefyd weithredu mewn dyfroedd bas.

Ychwanegodd Ms Griffiths ei bod hi'n anrhydedd i roi'r FPV Aegis - fydd yn cael ei hailenwi'n 'Pride of Wales' - i lywodraeth Liberia.

Mae gan Liberia gwerth 350 milltir o arfordir a phrinder adnoddau o ran goruchwylio'r moroedd.

Image caption Dywedodd Gurly Gibson ar ran Llywodraeth Liberia ei bod yn ddiolchgar ym y "rhodd caredig"

Dywedodd Gurly Gibson - llysgennad Liberia yn y DU - ei bod yn ddiolchgar am "rodd caredig" gan bobl Cymru.

"Bydd y cwch yma yn ein galluogi i ehangu ein gwasanaethau o ran awdurdod pysgodfeydd.

"Rydym ei angen i ddiogelu ein moroedd. Mae llawer o weithgareddau anghyfreithlon yn digwydd ar ein moroedd felly bydd hyn yn ffordd wych o'i reoli."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol