Dyn 40 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont

Heol Llangewydd Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Llangewydd yn ardal Bryntirion fore Mercher

Mae dyn 40 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ddydd Mercher.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Llangewydd yn ardal Bryntirion am tua 11:20.

Dywedon nhw mai dim ond un cerbyd - Ford KA glas - oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Bu farw'r dyn lleol yn y fan a'r lle ac mae ei deulu yn derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw dystion i'r digwyddiad neu unrhyw un welodd y car yn gyrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw trwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig