Disgwyl cyhoeddi amseroedd ymateb unedau brys

Yr uned frys yn Ysbyty Wrecsam Maelor
Image caption Yr uned frys yn Ysbyty Wrecsam Maelor

Fe fydd y ffigyrau ar gyfer perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer mis Ionawr yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed y dylai 95% o gleifion dreulio llai na pedair awr mewn unedau brys.

Y canran gafodd ei gyrraedd ar gyfer mis Rhagfyr oedd 77.8%.

Roedd y canrannau ar gyfer ysbytai Wrecsam Maelor a Glan Clwyd hyd yn oed yn is, gan effeithio ar y cyfartaledd drwy Gymru

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod y targedau wedi eu heffeithio gan y ffaith fod yna fwy o henoed a phrinder staff.

Ond ychwanegodd llefarydd nad oedd y perfformiad yr hyn dylai fod.

Yn ôl Gary Doherty, prif weithredwr y bwrdd, roedd hi wedi bod yn gyfnod heriol a phrysur "er hyn roedd yna ychydig o gynnydd, gan gynnwys mewn amseroedd ambiwlans.

"Rwy'n flin am yr amseroedd aros," meddai.

"Mewn rhai ardaloedd lle mae'r pwysau i'w deimlo fwyaf, mae tua hanner o'r cleifion yn aros dros bedair awr.

"Nid hwnna yw'r gwasanaeth rydym am ei roi - dim hwnna yw'r gwasanaeth byddwn eisiau ar gyfer fy hunan - mae angen gwneud yn well."

Dywedodd fod angen cymryd camau i wella'r modd mae unedau brys yn gweithio, neu sut mae rheoli problemau yn y gymuned.

Image caption Dilwyn Griffiths yn cae triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor ar ôl iddo sythrio tra'n siopa yn Wrecsam

'Mwy nag un rheswm'

Ym mis Awst Ysbyty Wrecsam Maelor oedd â'r record waethaf erioed o ran targedau unedau brys tra ym mis Rhagfyr dim ond tua hanner y cleifion cafodd eu gweld o ran yr amser targed o bedair awr.

Mae'n anodd rhoi bys ar un achos penodol yn ôl y bwrdd.

Dros y blynyddoedd mae nifer y cleifion dros 85 oed wedi cynyddu, ac mae'r rhain fel arfer ag achosion iechyd mwy cymhleth - yn enwedig yng nghyfnod y gaeaf.

Mae yna dîm sy'n gweithio ar draws y gwahanol broffesiynau gan gynnwys nyrsio, thrapwyr a gofal cymdeithasol er mwy asesu cleifion hŷn sydd wedi cwympo neu yn dioddef problemau anadlu.

Y nod yw hwyluso llif y cleifion drwy'r unedau brys ac yn ôl i'w cartrefi.

Yn Ionawr, cafodd 43 o'r 65 o gleifion gafodd eu cyfeirio i'r tîm gymorth i ddychwelyd yn ôl i'w cartrefi.

Dywedodd y therapydd galwedigaethol Vicky Warburton: "Wrth wraidd y cynllun mae anghenion y claf, a bod nhw'n cael triniaeth yn agosach i'w cartrefi."

Image caption Dywed Dr Ash Basu fod yr ysbyty yn gorfod delio gyda mwy a mwy o bobl hŷn sydd â chyflyrau cymhleth

Dywedodd Dr Ash Basu, ymgynghorydd mewn meddygaeth brys, y bydd tri o feddygon newydd yn cael eu cyflogi dan hyfforddiant yn yr haf a byddai hyn yn helpu gyda phroblemau staffio.

"Rwy'n credu ein bod erbyn hyn yn well o ran gwell ymateb o ran y gwasanaeth ambiwlans. Ond un canlyniad o hyn yn anffodus yw weithiau bod rhai cleifion yn y coridorau."

"Dyw hyn ddim yn ddelfrydol, ond rydym yn trio rhyddhau ambiwlansys mor fuan â phosib."

Dywedodd Dr Cameron Abbot, ymgynghorydd gyda chleifion hŷn, ei bod o'r farn eu bod yn cael y cleifion mwyaf bregus neu wan allan yn gynt o'r unedau brys a'u rhoi mewn wardiau neu ddod o hyd i'r cymorth cywir.

"Rydym yn gwneud cynnydd - ac yn gwneud gwahaniaeth o ran y cleifion."

Straeon perthnasol