Dynes yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng ceffyl a char

A495 Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A495 ger Bronington nos Fawrth

Mae dynes wedi ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ceffyl a dau gar nos Fawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A495 ger Bronington, Wrecsam am tua 19:30.

Fe gafodd y ddynes, oedd mewn cyflwr difrifol yn ôl y gwasanaeth ambiwlans, ei chludo i ysbyty yn Stoke gan ambiwlans awyr.

Roedd dyn hefyd ar y safle a gafodd ei drin am fan anafiadau, ond dywedodd Sarjant Leigh Evans o Heddlu'r Gogledd fod y ceffyl wedi marw.

Ychwanegodd Mr Evans fod y llu yn apelio am dystion neu am wybodaeth gan unigolion oedd yn teithio ar hyd y ffordd tua'r un pryd a'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig