Gwrthdrawiad pedwar car ar yr A40 yng Nghaerfyrddin

Cylchfan Pont Lesneven Image copyright Google

Bu un o ddwy lôn ddwyreiniol yr A40 yng Nghaerfyrddin ar gau fore Mercher yn dilyn gwrthdawiad rhwng pedwar car.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gylchfan Pontlesneven toc cyn 08:00 i ddelio gyda gwrthdrawiad ar yr A40.

Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans bod pedwar person wedi eu hanafu.

Cafodd dau eu trin yn y fan a'r lle a chafodd dau arall eu cludo i Ysbyty Glangwili mewn car.

Pynciau Cysylltiedig