'Bwlch Brexit' ynglŷn â gwarchod yr amgylchedd

Porpoise Image copyright WWF
Image caption Mae perygl y bydd un o bob 14 rhywogaeth yn diflannu'n llwyr, yn ôl y WWF

Mae 80% o'r safonau sy'n gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru yn gysylltiedig â'r Undeb Ewropeaidd, ac amser yn prinhau i sicrhau trefniadau newydd cyn Brexit, medd grwpiau natur.

Maen nhw'n dweud y gallai bywyd gwyllt, cynefinoedd ac ansawdd dŵr ac aer gael eu heffeithio.

Mewn llythyr at Weinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, galwodd WWF Cymru am "weithredu ar frys".

Mynnodd Llywodraeth Cymru ei bod wrthi'n datblygu cynlluniau a'i bod yn edrych ymlaen at gael eu rhannu.

Ond gyda llai na 40 diwrnod i fynd nes i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, rhybuddiodd cyfarwyddwr WWF Cymru, Anne Meikle y byddai'r "mesurau gwarchod presennol yn cael eu tanseilio yn llwyr".

'Pryder dybryd'

Ar hyn o bryd mae cannoedd o reoliadau a safonau sy'n gwarchod yr amgylchedd rhag llygredd yng Nghymru sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd.

Mae llywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Alban eisoes wedi cyhoeddi ymgynghoriadau ar gynlluniau fyddai'n cymryd eu lle ar ôl Brexit.

Ond yng Nghymru, lle mae rheolaeth dros bolisi amgylcheddol wedi'i ddatganoli, mae gweinidogion wedi gohirio gwneud cyhoeddiad.

Dywedodd Ms Meikle fod y sefyllfa'n achosi "pryder dybryd".

Image caption Dywedodd Anne Meikle bod perygl i'r mesurau gwarchod presennol "gael eu tanseilio yn llwyr"

Mae'r WWF yn un o 13 elusen amgylcheddol blaenllaw sydd wedi uno dan faner Greener UK i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y maen nhw'n ei alw'n "bwlch Brexit" yn y mesurau sy'n gwarchod natur.

Dywedodd yr ymgynghorydd amgylcheddol, Llinos Price fod y grŵp yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi cael "hen ddigon o amser i feddwl" a byddai trefniadau "yn bendant ddim yn eu lle erbyn diwrnod Brexit".

Yn ogystal â throsglwyddo cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd i rai Cymreig, dywedodd hefyd bod angen dod o hyd i ffordd o sicrhau bod pobl gyffredin yn medru dwyn y llywodraeth i gyfrif am unrhyw broblemau.

Ar hyn o bryd mae'r cyhoedd yn gallu cwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd am ddim, sy'n gallu penderfynu ymchwilio ar eu rhan.

Un enghraifft ddiweddar oedd cwyn corff Afonydd Cymru ynglŷn â'r modd roedd Llywodraeth Cymru'n ymateb i achosion o lygredd amaethyddol mewn afonydd.

Sefyllfa 'echrydus'

Ar hyd y blynyddoedd mae dyfarniadau o Frwsel wedi arwain at weithredu hefyd i leihau allyriadau o nwyon gwenwynig o bwerdy glo Aberddawan ym Mro Morgannwg a chreu parth gwarchod morol oddi ar arfordir y gorllewin i ddiogelu llamhidyddion [porpoise] prin.

Yn Lloegr, mae'r Ysgrifennydd Amgylchedd Michael Gove wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer corff annibynnol - Swyddfa Gwarchod Amgylcheddol.

Ond mewn llythyr at Bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad yr wythnos hon, mae Ms Griffiths yn dweud nad yw hi'n teimlo bod y model sydd wedi'i amlinellu gan Lywodraeth y DU yn un addas ar gyfer Cymru, gan addo ymgynghoriad erbyn diwedd y mis.

Image caption Dywedodd Llinos Price bod Llywodraeth Cymru wedi cael "hen ddigon o amser i feddwl"

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, Llyr Gruffydd ei bod hi'n sefyllfa "eithaf echrydus".

"Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain ei chynlluniau ar gyfer Lloegr y llynedd - yng Nghymru y cyfan sydd gennym ni yw tudalen lan," meddai.

"Fe wnaeth y gweinidog addo ymgynghoriad yn ystod yr haf diwethaf, yna fe ohiriwyd hynny tan yr hydref ac yna tan y flwyddyn newydd.

"Bellach mae'n fis Chwefror a ry'n ni'n dal i aros am ymgynghoriad ar yr opsiynau, heb sôn am gynlluniau go iawn sy'n barod i fynd i warchod yr amgylchedd ymhen rhyw chwe wythnos."

'Dechrau o bwynt gwahanol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi'i hymrwymo i sicrhau bod safonau amgylcheddol yn cael eu cyrraedd a'u gwella ar ôl Brexit.

"Mae ein cyfreithiau arloesol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Amgylchedd wedi rhoi'r amgylchedd wrth galon y gwaith o wneud penderfyniadau ac wedi cyflwyno nifer o egwyddorion amgylcheddol, gan dynnu oddi ar yr arfer gorau yn rhyngwladol," meddai'r llefarydd.

"Bydd hyn yn parhau ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'n ffordd ni o weithredu, sy'n agosach i'r hyn sy'n digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd, yn golygu ein bod ni'n dechrau o bwynt gwahanol i weddill y DU.

"Ry'n ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â bylchau mewn rheoliadau amgylcheddol ar y cyfle cyntaf posib i gyflwyno cyfreithiau newydd."

Straeon perthnasol