Adran Dau: Notts County 1-4 Casnewydd

Jamille Matt Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Jamille Matt ddwywaith yn yr hanner cyntaf

Fe wnaeth Casnewydd ymateb i'r golled yn erbyn Manchester City dros y penwythnos gyda buddugoliaeth yn Notts County nos Fawrth.

Aeth yr Alltudion ar y blaen o fewn 10 munud gyda gôl gan Fraser Franks, ond fe wnaeth Kane Hemmings ymateb i'r tîm cartref lai na munud yn ddiweddarach.

Fe wnaeth yr ymwelwyr gymryd rheolaeth o'r gêm cyn hanner amser, gyda Jamille Matt yn sgorio dwy - yr ail yn ergyd athletaidd dros ei ben ei hun.

Ychwanegodd Padraig Amond bedwaredd gôl i Gasnewydd ar ddechrau'r ail hanner wrth iddo benio heibio'r golwr Ryan Schofield.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn y 15fed safle yn Adran Dau, ond chwe phwynt yn unig o safleoedd y gemau ail gyfle.