Honda: Pryder am effaith ar Gymru

Honda Image copyright Shutterstock
Image caption Bydd ffatri Swindon yn cau erbyn 2021

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd eu swyddogion yn cydweithio gyda chwmnïau ceir yng Nghymru er mwyn lleddfu unrhyw effaith posib wrth i gwmni Honda gyhoeddi eu bod yn cau eu ffatri yn Swindon gan ddiswyddo 3,500 erbyn 2021.

Yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, mae'r cyhoeddiad yn ergyd drom i economi'r DU ac i'r diwydiant ceir yn benodol.

"Mae'n amlwg y bydd y newyddion yn cael effaith ar gwmnïau o Gymru sy'n cyflenwi ffatri Swindon," meddai.

"Ynghyd â Fforwm Modurol Cymru ac Asiantaeth Busnes Llywodraeth y DU a'r Adran Strategaeth Diwydiannol, fe fydd fy swyddogion yn cydweithio gyda'r cwmnïau hyn gan ddefnyddio pob adnodd posib."

Dywedodd Tim Williams o Fforwm Modurol Cymru fod yna tua 12 o gwmnïau o Gymru fydd yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol.

"Mae'n mynd i gael effaith ar gyflenwyr o Gymru- mae tua 12 o gwmnïau ac rydym yn cydweithio gyda nhw ar y funud," meddai.

"Mae'n rhaid i ni weithio gyda Llywodraeth Cymru i weld tua faint o ran canran y bydd hyn yn effeithio ar Gymru, a phe bai nhw yn colli'r busnes yna, yna sut allwn ni eu helpu nhw."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol