Abertawe gartref i Man City yn rownd yr wyth olaf

Daniel James Image copyright Getty Images
Image caption Daniel James oedd seren y gêm i Abertawe yn erbyn Brentford ym mhumed rownd y gwpan

Bydd Abertawe yn chwarae Manchester City ar Stadiwm Liberty yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr.

Llwyddodd yr Elyrch i sicrhau ei lle yn dilyn buddugoliaeth o 4-1 gartref yn erbyn Brentford ddydd Sul.

Dyma fydd ail drip Manchester City i Gymru yn y gwpan eleni, ar ôl iddyn nhw drechu Casnewydd ar Rodney Parade yn y bumed rownd.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar benwythnos 15-17 Mawrth.

Straeon perthnasol