Tamsyn Sibanda ac Olivia Clark yn rhan o garfan Merched Cymru

Jayne Ludlow

Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru wedi cynnwys dau wyneb newydd yn ei charfan ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Nid yw amddiffynwr 17 oed Arsenal, Tamsyn Sibanda, na chwaith golwr 17 oed Nettleham, Olivia Clark, wedi chwarae dros Gymru o'r blaen.

Mae Kayleigh Green ar gael i chwarae ar ôl methu'r golled yn Yr Eidal oherwydd gwaharddiad.

Bydd Cymru'n herio'r Weriniaeth mewn dwy gêm yn Marbella ar 28 Chwefror a 5 Mawrth.

Carfan Cymru

Laura O'Sullivan, Claire Skinner, Olivia Clark, Sophie Ingle, Hayley Ladd, Loren Dykes, Megan Wynne, Gemma Evans, Ffion Morgan, Nadia Lawrence, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Cori Williams, Natasha Harding, Angharad James, Tamsyn Sibanda, Jess Fishlock, Kayleigh Green, Gwen Davies, Kylie Nolan, Ella Powell, Helen Ward, Emma Jones, Grace Horrell.