Pro14: Gleision 34-38 Glasgow

Aled Summerhill yn tirio Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Fe sgoriodd Aled Summerhill dri chais i'r Gleision

Er gwaethaf gêm agos a welodd pum cais yr un gan y ddau dîm, yr ymwelwyr aeth â hi yn y gêm hwyr nos Sadwrn wrth i Glasgow drechu'r Gleision.

Fe sgoriodd Aled Summerhill dri o cheisiau'r tîm cartref, ac fe lwyddodd Owen Lane a Garyn Smith hefyd i dirio.

Daeth y pwyntiau eraill y Gleision o ganlyniad ciciau Jarrod Evans.

Fe enillodd y Gleision ddau bwynt bonws wrth herio'r gwrthwynebwyr i'r eithaf tan y gic olaf.

Dywedodd Summerhill wedi'r gêm bod y canlyniad yn "siomedig iawn" ond bod y tîm "ddim yn ddigon da" ar y noson.

"Byddai'n well gen i bod ni wedi ennill na sgorio'r hat-trick, er 'mod i heb sgorio un o'r blaen i'r Gleision," meddai.

Pynciau Cysylltiedig