Pryder cynghorau lleol am gostau cudd Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol

Mae 'na gostau cudd ynghlwm â gweithredu newidiadau dadleuol i'r system fudd-daliadau, yn ôl cynghorau lleol.

Y nod trwy gyfuno sawl budd-dal oedd gwneud hi'n haws i bobl ymgeisio am un budd-dal newydd - y Credyd Cynhwysol.

Ond yn ôl 16 o 22 o gynghorau lleol Cymru, dyw Llywodraeth y DU ddim yn cyllido gwir gost ariannol rhoi cymorth i ymgeiswyr, gan gynnwys help gyda sgiliau digidol angenrheidiol.

Mae'r Adran Waith a Phensiynau (DWP) yn dweud bod modd i gynghorau wneud cais i hawlio costau ychwanegol yn ôl, ond nid dyna'r achos, medd y cynghorau.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) - y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol - a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, dyw'r ffordd mae'r Credyd Cynhwysol yn cael ei weithredu ddim yn gweithio.

Yn y pen draw fe fydd y Credyd Cynhwysol yn cymryd lle'r budd-dal tai, cymorth incwm a thaliadau eraill, a bydd yn rhaid gwneud cais amdano ar lein.

Ar hyn o bryd mae cynghorau'n gallu ad-ennill rhywfaint o'r arian sy'n cael ei wario ar ddarparu cymorth i bobl sydd angen help gyda sgiliau digidol a thrin arian o fewn y system newydd.

Ond hyd yn oed ar ôl hawlio arian yn ôl gan y DWP, mae'r 22 cyngor yng Nghymru yn amcangyfrif bod y bil terfynol ar gyfer y llynedd yn fwy na £1.2m.

Image caption Dywedodd Anthony Hunt bod 'na "gost gudd enfawr" i gynghorau lleol

Yn ôl llefarydd ar ran y DWP, mae'r Credyd Cynhwysol yn gweithio'n dda yn achos mwyafrif helaeth o bobl, a bod modd i awdurdodau lleol hawlio unrhyw gostau ychwanegol sydd ynghlwm â gweithredu'r budd-dal newydd.

Ond o brofiad Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen a llefarydd ar ran CLlLC, dyw cynghorau heb gael fawr o hwyl ar sichrau "cyfran resymol" o'r arian yn ôl.

"Mae 'na gost gudd enfawr - oherwydd mae yna fwy i'r sefyllfa na chost uniongyrchol cael pobl i dderbyn y Credyd Cynhwysol," meddai. "Mae yna effaith, er enghraifft, ar wasanaethau digartrefedd."

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i ailfeddwl a chydnabod "goblygiadau ariannol mawr" y drefn newydd.

'Cymorth gorau posib'

Fel rhan o gytundeb gwerth £39m gyda Llywodraeth y DU, yr elusen Cyngor ar Bopeth fydd helpu pobl ymgeisio am y Credyd Cynhwysol o fis Ebrill ymlaen, yn hytrach na'r cynghorau.

Bydd hynny'n sicrhau bod y bobl fwyaf bregus yn derbyn "y cymorth gorau posib" i wneud cais, yn ôl y DWP.

Ond mae'r elusen yn dweud nad yw'r cytundeb yn cwmpasu'r holl gostau cymorth.

Ac yn ôl Julie James, cynghorau ac elusennau fydd yn parhau i dalu costau ychwanegol gweithredu'r Credyd Cynhwysol.

"Er ein bod ni wedi llwyddo, i raddau, i warchod awdurdodau lleol Cymru yn well na chynghorau yn Lloegr, maen nhw'n gwneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd.

"Mae hwn yn faich ychwanegol... ar gyfer dinasyddion bregus sydd angen eu help."

Straeon perthnasol