Gwrthdrawiad Corneli Waelod: Heddlu'n apelio am dystion

car heddlu

Mae dyn yn cael triniaeth at anafiadau allai peryglu ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Roedd ffordd osgoi'r A4229 yng Nghorneli Waelod ar gau am chwe awr wedi'r gwrthdrawiad yn cynnwys Peugot 208 llwyd a BMW glas am 18:50 ddydd Gwener.

Mae gyrrwr y Peugot, sy'n 30 oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae Heddlu'r De'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dash cam perthnasol.