Cyhuddo dyn 23 oed o fod ag arf yng nghanol Caerdydd

Heol Eglwys Fair Image copyright Google
Image caption Cafodd plismyn arfog eu danfon i Heol Eglwys Fair yn hwyr brynhawn Gwener

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 23 oed wedi adroddiadau bod dyn wedi cael ei weld gydag arf yng nghanol Caerdydd.

Cafodd heddlu arfog eu danfon i Heol Eglwys Fair wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw tua 17.20 brynhawn Gwener.

Dywed y llu bod Hubert Konieczny wedi cael ei gyhuddo o fod â chyllell neu wrthrych miniog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo fynd o flaen ynadon Caerdydd ar 6 Mawrth.