Tân eithin ar dir uchel yng Ngheredigion wedi'i diffodd

Tân eithin Llanddewi Brefi Image copyright Angharad Jones
Image caption Mae'r tân wedi lledu ar draws bryn uwchben Llanddewi Brefi

Mae criwiau Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin wedi diffodd tân eithin oedd yn llosgi dros nos yng Ngheredigion.

Yn ôl y gwasanaeth mae'r tân a ddechreuodd brynhawn Gwener wedi difrodi tua 30 hectar (74 acres) o dir mynyddig uwchben Llanddewi Brefi.

Fe ddychwelodd ddau beiriant o orsaf Tregaron i'r safle fore Sadwrn i asesu'r sefyllfa a chadarnhau bod y tân wedi'i diffodd erbyn tua 07:00.

Mae'r awdurdodau yn dal i geisio cadarnhau beth wnaeth achosi'r tân.

Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael anaf na bod eiddo wedi ei ddifrodi.