Cymeradwyo distyllfa a chanolfan ymwelwyr Penderyn

Gwaith Copr Hafod Morfa Image copyright Cyngor Abertawe
Image caption Bydd adeilad adfeiliedig yn hen safle Gwaith Copr Hafod Morfa yn cael ei adnewyddu

Mae cynlluniau i ehangu cwmni wisgi gyda distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd wedi cael eu cymeradwyo.

Bydd cwmni Penderyn yn ailddatblygu adeilad adfeiliedig yn hen safle Gwaith Copr Hafod Morfa yn Abertawe.

Mae'r busnes o Aberdâr yn gobeithio dechrau'r gwaith adeiladu ar ddiwedd y flwyddyn, gyda'r nod o agor y safle newydd erbyn 2022.

Fe wnaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri gyfrannu £3.75m tuag at y prosiect.

Image copyright Cyngor Abertawe
Image caption Llun artist o sut y bydd yr adeilad gorffenedig yn edrych

Pynciau Cysylltiedig