Rhannu ei stori'n gymorth i Lara ddelio ag anorecsia
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Methu gweld ffordd allan o'r anorecsia'

18 Chwefror 2019 Diweddarwyd 07:15 GMT

Ar ôl brwydr yn erbyn anorecsia, mae dynes ifanc o Gaerdydd wedi denu cynulleidfa o filiynau wrth rannu ei stori ar-lein.

Mae un o fideos Lara Rebecca o Gaerdydd wedi ei weld gan bron i saith miliwn o bobl mewn tair wythnos.

Pan oedd hi ar ei gwaethaf, dywedodd nad oedd hi'n gallu gweld bywyd heb anorecsia.