Kio parlamento en Esperanto?

Peidiwch â dweud wrth y Saeson ond mae eu hiaith nhw yn beth rhyfedd ar y naw. Ydy, mae hi'n iaith Almaenaidd ond mae bron i drigain y cant o'i geirfa yn dod o ieithoedd Lladinaidd. Cofiwch hynny'r tro nesaf y bydd rhiw ionc yn chwerthin ynghylch y ffaith bod geiriau fel tractor neu lori'n ymddangos yn y Gymraeg. Y Saesneg yw'r lleidr pennaf pan ddaw hi at dwgyd geiriau!

Mae hynny'n dod â ni at y geiriau 'Parliament' a 'Senedd' a'r drafodaeth ynghylch beth i alw'r lle yma - rhywbeth y mae rhai yn teimlo'n rhyfeddol o gryf yn ei gylch.

Yn bersonol, dydw i ddim yn gweld unrhyw beth o'i le ar enw presennol y Cynulliad. Wedi'r cwbwl os ydy l'Assemblée Nationale yn ddigon da i'r Ffrancod pwy ydyn ni i hawlio gwell?

Ond, o gymryd bod yr enw yn mynd i newid, ai Senedd neu Parliament ddylai'r lle fod? Draw ar Nation.Cymru mae Ifan Morgan Jones yn dadlau'n gryf dros y gair Normanaidd yn hytrach na'r un Gymraeg. Dyma hanfod ei ddadl.

"Welsh Parliament' isn't just a given name - it's a description. A description of what the institution is and does.People in the UK understand what a Parliament does. It makes laws. And they will understand what a Welsh Parliament does. It makes laws for Wales.It can be easily distinguished from the Welsh Government, which is the executive.

"Most people in Wales will not have the same immediate understanding of what the word 'Senedd' means."

Mae 'na gryn sylwedd i ddadl Ifan ond rwy'n synhwyro taw i'r cyfeiriad arall y mae'r gwynt yn chwythu.

Yr wrthddadl yw byddai defnyddio'r gair 'Senedd' yn gwahaniaethu deddfwrfeydd Bae Caerdydd a San Steffan ym meddyliau'r cyhoedd ac yn gam tuag at normaleiddio'r Gymraeg.

Mae hi wastod wedi synnu fi cyn lleied o eiriau Cymraeg sy'n cael eu defnyddio yn ein fersiwn ni o'r Saesneg. Mae fersiynau Seland Newydd a'r Iwerddon yn frith o eiriau Te Reo a Gaeleg er bod yr ieithoedd hynny llawer yn wannach na'r Gymraeg.

Ac eithrio cwtsh a hiraeth prin yw'r geiriau sydd wedi croesi'r ffin ieithyddol i'n Saesneg safonol ac o safbwynt ein cenedligrwydd gellir dadlau bod angen ei Saesneg ei hun ar y Cymry yn ogystal â'i hiaith ei hun.

Dydw i ddim am ddewis ochor yn y ddadl hon ond dyw e ddim yn fater ymylol na dibwys fel y mae rhai yn credu. O leiaf does neb wedi cynnig Cymanfa neu Gymdeithasfa fel ateb hyd yma!