Scott Williams i fethu gweddill y Chwe Gwlad

Scott Williams Image copyright Getty Images
Image caption Mae Scott Williams wedi ennill 57 cap dros Gymru

Ni fydd y canolwr Scott Williams ar gael i Gymru ar gyfer gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni oherwydd anaf i'w gefn.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei fod wedi cael ei ryddhau i'w ranbarth, Y Gweilch, i wella o'r anaf.

Mae Cymru wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yn y bencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.

Fe fydd Cymru'n croesawu Lloegr i Gaerdydd yn eu gêm nesaf ar 23 Chwefror.

Er y newyddion drwg am anaf Williams mae Cymru wedi cael yr hwb o wybod y bydd Leigh Halfpenny ar gael ar gyfer y gêm honno, ac mae'r cefnwr wedi cael ei ryddhau o'r garfan i chwarae dros y Scarlets oddi cartref yn erbyn Benetton y penwythnos yma.

Bydd y maswr Rhys Patchell ar gael i herio Lloegr hefyd ar ôl gwella o anaf i'w goes, ac mae yntau wedi'i ryddhau i gynrychioli'r Scarlets ddydd Sadwrn.