Apêl i ganfod dyn ifanc o Abertawe sydd ar goll

Tapiwa Matuwi Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Dywedodd yr heddlu a theulu Tapiwa Matuwi eu bod yn "gynyddol bryderus" am ei les

Mae'r heddlu yn apelio am gymorth i ddod o hyd i ddyn ifanc sydd wedi bod ar goll ers mynd am noson allan yn Abertawe.

Nid yw Tapiwa Matuwi - sy'n cael ei adnabod gan deulu a ffrindiau fel Tapi - wedi ei weld ers oriau mân fore Iau, 7 Chwefror.

Cafodd y dyn 21 oed o Lansamlet ei weld diwethaf gan ffrindiau am tua 02:00 yng nghlwb nos Fiction ar Stryd y Gwynt (Wind Street) ynghanol y ddinas.

Mae lluniau CCTV ohono yn ardal Gerddi'r Castell am tua 05:00 - tua thair awr yn ddiweddarach.

Mae Mr Matuwi yn ddu, yn 5'6" o daldra, gyda gwallt du ag ychydig o oren ar y top.

Pan gafodd ei weld diwethaf, roedd Mr Matuwi yn gwisgo het pêl-fas du gyda logo coch, siaced goch gyda 'Bieber' wedi'i ysgrifennu ar y cefn, a siwmper wen.

Roedd yn gwisgo jîns tywyll ac esgidiau high-top.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig