Nefi Blŵ a 'rargol! O ble daw'n ebychiadau?

Beth ydych chi'n ei weiddi wrth wylio'r rygbi? Rhegfeydd brwnt neu rhyw ddweud go barchus a sidét?

Mae rhegfeydd i'w clywed bron yn ddyddiol yn rhywle neu'i gilydd ond doedd yr hen Gymry ddim yn rhegi yn yr un ffordd â ni.

Eto i gyd nid yw hynny'n golygu nad oedd yr awyr yn las ers talwm wrth gael pigiad gan wenyn neu gerdded i mewn i bolyn lamp! Bryd hynny roedd pobl yn troi at ebychiadau mwy parchus.

Mae gennym nifer o wahanol ebychiadau yn ein hiaith o hyd sydd â tharddiad digon diddorol. Dyma lond llaw:


Asiffeta!

Un o hoff ebychiadau Arthur Picton o'r gyfres deledu poblogaidd C'mon Midffîld oedd 'Asiffeta!' Gwm neu resin wedi ei dynnu o wreiddyn y perlysieuyn ferula ydi o ac mae'n cael, ac wedi cael, ei ddefnyddio ar sawl cyfandir fel meddyginaieth ac ar gyfer coginio. Yn India mae'r rhan fwyaf ohono'n cael ei dyfu.

Yr enw Saesneg arno ydi asafoetida neu asafetida sy'n dod o'r gair Persiaidd asa (resin) a'r Lladin foetida (arogl cryf) sy'n cyfieiro at yr arogl cryf o swlffwr sydd arno.

Bu yngan y gair 'asiffeta' yn gwneud i blant grynu yn eu 'sgidiau ac yn gwneud i unrhyw un a gymerai lwyaid ohono fod eisiau rhegi i'r cymylau. Mae'r Ffrancwyr, yn onest iawn yn eu alw ymysg enwau eraill, yn merde du diable (c*chu'r diafol!).


Brensiach y bratiau!

Yr un cefndir o beidio cynnwys enw Duw neu Iesu Grist mewn cabledd neu felltith sydd tu ôl i 'Brensiach y bratiau!'. Mae'r gair Brenin (cyfeiriad at Dduw), rhag pechu, wedi ei newid i 'Brensiach'. Mae 'brat' wedyn i lawer yn golygu ffedog neu gerpyn, neu glwt. Ond mae 'brat' hefyd yn golygu rhywbeth bychain, pwt o rhywbeth. 'Trwyn frat' i rai yw trwyn smwt, pwt o drwyn, trwyn bach. 'Bratiog' wedyn yw rhywbeth sydd yn frith o fân bethau.

At ei gilydd felly mae'r term 'Brensiach y bratiau' yn golygu 'Y Brenin Carpiog', brenin mewn dillad tlawd, wedi rhwygo, sef golygfa ddieithr iawn a fyddai wedi synnu pobl ers talwm.

Unwaith eto cyfeiriad at grefydd y Cymry Cristnogol sydd tu ôl i ebychiadau fel 'Bendith y Nefoedd!' a 'Nefoedd yr Adar!'. Yn achos syndod o'r mwyaf mae'r ebychiad yn adlewyrchu'r tueddiad o edrych tua'r nefoedd i chwilio am yr ateb. Yr un tarddiad sydd i 'Good Heavens!' neu 'Heavens above!' yn Saesneg.


Caton pawb!

Dyma'r fersiwn Gymraeg o 'God help us!' Yr ystyr llythrennol yw 'Duw a gadwo bawb' a bod y gair 'cadwo'n' wedi newid i 'caton' dros y blynyddoedd maith.


Jiw jiw, rargol!

Yn nyddiau parchus y gorffennol pan oedd golchi dillad neu chwarae pêl ar y Sul yn cael eu hystyried yn bechodau, roedd pobl yn fwy cynnil eu hebychiadau. Rhag 'dwyn enw Duw'n ofer' mi ddaeth yn arfer gan y Cymry i newid yr enwau Arglwydd, Duw ac Iesu i bethau gwahanol. Er enghraifft aeth 'Dduw Annwyl' yn 'Ewadd Annwyl!' neu 'Duwcs Annwyl!'. Roedd yngan y geiriau 'Duw! Duw!' yn gwbl annerbynniol felly yn ne Cymru trowyd at ddweud 'Jiw, jiw!' yn ei le.

Yn y bon felly roedd pobl, drwy newid ychydig ar y geiriau, yn gallu parhau i ddweud rhywbeth mawr ond beb bechu neb, tebyg i'r term feck yn Iwerddon.

Yn yr un modd mae 'O'r Arglwydd!' wedi troi'n 'Rargol!' neu 'Rargoledig!' a'r 'Arglwydd Mawr' yn 'Rargian fawr!'. Yn lle 'Iesu' fe glywn 'Esgob!' neu 'Esgob annwyl!' ac o dipyn i beth trodd 'yr Iesu' yn ymadrodd enwog a ddefnyddiwyd gan Syr Wymff ap Concord, 'Raslas bach!'

Image caption Raslas bach a mawr!

O sacré Dieu i Nefi Blŵ

Ynghanol y 1700au mae cofnod yn Ffrainc o'r ymadrodd 'sacré Dieu' ('Dduw Sactaidd!) yn cael ei dderfnyddio fel ebychiad. Unwaith eto, i osgoi cabledd, newidiwyd o i 'sacré bleu' (gan fod 'dieu' a 'bleu' yn odli). Yn ei dro, daeth y term i glustiau'r Gymry sydd wedi newid yr elfen 'sanctaidd' i 'nefoedd' gan greu 'Nefi Blŵ!' (sy'n wahanol i 'nêfi blŵ' y lliw, 'navy blue').

I'r cyfeiriad arall wedyn, troi at uffern sydd tu ôl i'r ymadroddion 'Uffern Dân!', 'Uffern gols!' ac 'Uffach wyllt!', a chyfeiriad at y Diafol sydd yn 'Jiawch uffen' a 'Myn diawch'.



'Wel, myn cebyst!'

Image copyright cmannphoto

Tennyn, penffrwyn neu gortyn â chwlwm i rwymo gwartheg corniog neu geffylau yw 'cebystr' (mae'r 'r' wedi diflannu erbyn heddiw) ond roedd y gair hefyd yn cael ei ddefnyddio am raff i grogi rhywun ac ers talwm byddai 'Cebyst iddo!' yn golygu 'Crogwch o!'

Mae'r gair hefyd, fel ansoddair yn golygu melltigedig neu ddialwedig. 'Yr hen benbwl cebyst!' meddai Twm o'r Nant yn ôl yn 1786.

Erbyn heddiw, oherwydd ei gysylltiad â chrogi a melltith mae'r gair wedi ennill ei le yn y llw 'Myn cebyst!' a dyngir gan bobl yn lle rhegi.


Yr uwd a redo!

Ganrifoedd yn ôl roedd gwneud uwd yn llawer iawn mwy trafferthus na'i daflu i feicrodon neu ei fwydo mewn dŵr berw fel heddiw. Roedd yn rhaid cynnau tân, nôl llefrith neu ddŵr a'i adael i ferwi gan ei droi bob hyn a hyn. Roedd yn fwyd digon rhad ond nid oedd i'w wastraffu.

Ar ôl mynd i'r drafferth i'w goginio, siom o'r mwyaf ac achos i wylltio a rhegi fyddai gweld powlenaid o uwd yn syrthio i'r llawr - 'yr uwd a redo!'

Pynciau Cysylltiedig