Adran Dau: Grimsby 3-0 Casnewydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe sgoriodd Jordan Cook ddwy waith wrth i Grimsby ennill o 3-0 yn erbyn Casnewydd.

Daeth gôl gyntaf Cook gydag ergyd o du allan y cwrt cosbi yn curo Nick Townsend yn y gôl i Gasnewydd.

Llwyddodd Townsend i arbed cic o'r smotyn ar ôl i Keanu Marsh-Brown ildio'r gic gyda throsedd ar Cook.

Cook oedd yn ei chanol hi unwaith eto wrth i'w ergyd daro chwaraewr arall cyn hedfan i gefn y rhwyd i ddyblu mantais y tîm cartref.

Daeth y drydedd gôl diolch i wyriad arall. Y tro hwn, ergyd Martyn Woolford darodd yn erbyn Mickey Demetriou i goroni prynhawn rhwystredig i Gasnewydd.

Mae gŵyr Michael Flynn bellach yn safle 14 yn y tabl.