Cyfaddef trywanu dyn ifanc i farwolaeth yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Malaciah Thomas yn byw yn ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd

Mae dyn wnaeth drywanu dyn ifanc arall i farwolaeth yng Nghaerdydd wedi pledio'n euog i lofruddiaeth yng nghanol yr achos yn ei erbyn.

Roedd Daniel Roberts, 20, a thri dyn arall yn gwadu llofruddio Malaciah Thomas yn ardal Grangetown deuddydd cyn ei ben-blwydd yn 21 oed ym mis Gorffennaf 2018.

Clywodd y llys yn gynharach yn yr wythnos bod Roberts yn "dal dig" am ei fod yn credu fod Mr Thomas mewn perthynas gyda'i gariad, Naomi Davis.

Fe newidiodd ei ble ar nawfed diwrnod yr achos yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae'r tri diffynnydd arall - Christopher Griffiths, 30, Awez Jamshaid, 19, a Saif Shazad, 19 - yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

'Gyrrwr personol'

Fe wnaeth yr amddiffyniad ddechrau eu hachos ddydd Iau, gyda Mr Shazad yn rhoi tystiolaeth i'r llys.

Dywedodd ei fod wedi cyfarfod Roberts, gafodd ei ddisgrifio fel "deliwr cyffuriau", yn 2017 a'i fod wedi dechrau gwerthu cyffuriau ar ei ran.

Ychwanegodd ei fod yn ennill hyd at £80 y diwrnod yn gwerthu canabis, a'i fod ef a Mr Jamshaid yn cael eu defnyddio gan Roberts i yrru i ble bynnag y mynnai.

Dywedodd Mr Shazad wrth y rheithgor bod Roberts wedi prynu car Audi iddo ar gyfer ei rôl fel gyrrwr personol.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Jamshaid wedi defnyddio'r car i yrru Roberts, Mr Shazad a Mr Griffiths i Grangetown yn oriau mân y bore ar 23 Gorffennaf y llynedd, ble cafodd Mr Thomas ei drywanu i farwolaeth.

Mae'r achos yn parhau.