Gwerthu Clwb Rygbi Castell-nedd i gwmni ariannol
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Castell-nedd wedi cael ei werthu i gwmni ariannol, yn ôl cefnogwyr.
Mae'r clwb, sydd wedi bod mewn trafferthion ariannol, wedi wynebu deisebau dirwyn i ben yn yr Uchel Lys yn sgil dyledion treth i'r CThEM.
Cafodd cyn-berchennog y clwb Mike Cuddy ei wneud yn fethdalwr yn gynharach fis Ionawr ar ôl iddo ymddiswyddo o'r rôl, gan adael ei wraig fel yr unig gyfarwyddwr ar y clwb.
Dywedodd Graham Jones, llefarydd ar ran Clwb Cefnogwyr Rygbi Castell-nedd fod y clwb wedi ei drosglwyddo i "gwmni ariannol o Gaerdydd".
"Bydd rhai o'r clwb cefnogwyr yn gweithio gyda'r cwmni newydd i geisio dod o hyd i ateb ar y nifer o broblemau ariannol sydd yn y clwb," meddai.
"Yn dilyn hyn, bydd disgwyl i'r cwmni ariannol drosglwyddo'r clwb i berchnogaeth y cefnogwyr yn ddiweddarach."
'Gobaith'
Roedd cefnogwyr y clwb wedi bod yn galw ar Mr Cuddy i adael y clwb ers peth amser.
Cafodd perchnogaeth y clwb ei drosglwyddo i'w wraig, Simone Cuddy ddydd Mercher, ar ôl i Mr Cuddy gael ei wneud yn fethdalwr.
Ychwanegodd Mr Jones fod gan gefnogwyr "gobaith" a bydden nhw'n gallu "cynllunio at y dyfodol".
Dywedodd ei fod yn disgwyl i'r clwb gael ei drosglwyddo i'r cefnogwyr mewn oddeutu "chwe mis".
Straeon perthnasol
- 21 Ionawr 2019