Cynnwrf y darbi - Bangor v Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Ar ôl wythnosau o gynnwrf, daeth dros 2,000 o gefnogwyr i wylio Bangor yn herio Caernarfon nos Sadwrn wrth i'r ddau hen elyn gwrdd ar y cae pêl-droed am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
Y ffotograffydd Iolo Penri aeth draw i Stadiwm Nantporth, Bangor, er mwyn cloriannu profiad y cefnogwyr a'r timau o'r darbi fawr ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.
Ar ôl glaw mawr cyn y gêm, roedd rhaid gwneud gwaith munud olaf i'r cae er mwyn sicrhau bod y darbi yn gallu cael ei chynnal
Rhai o'r 2,300 oedd wedi cael tocyn
Cyn gêm mor bwysig, mae'n rhaid paratoi'n feddyliol o flaen llaw...
...ac mae gan y cefnogwyr eu paratoadau hefyd
Dim angen cliw i wybod pa dîm mae'r rhain yn ei gefnogi
... na'r rhain chwaith!
Y foment fawr - ond fydd rhain yn siarad am y gêm am flynyddoedd i ddod... neu ceisio ei anghofio?
Awê...!
Tydi Stadiwm Nantporth heb gael tyrfa mor fawr ers blynyddoedd
Ar ôl i'r Caneris fynd ar y blaen diolch i Jamie Breese, cefnogwyr y Dinasyddion sy'n dathlu ar ôl i Jordan Piggott ddod â'r sgôr yn gyfartal - 1-1
Fel pob gêm darbi, mae'n gystadleuol ar y cae
Ond mae un gŵr yn cadw trefn
Ceisio rhoi hwb i Bangor wedi iddyn nhw ildio eto - 1-2 ar ôl i Gareth Edwards sgorio i'r Cofis
Amser i newid tactegau
"Faint fwy reff?!" - rheolwr Caernarfon Sean Eardley eisiau clywed y chwiban olaf
A dyna hi! Caernarfon yn fuddugol.
Dim ots am y glaw ar ôl buddugoliaeth
Caneris hapus
Ar ôl trafferth cyn y gêm, yr heddlu sy'n ceisio sicrhau bod pawb yn mynd adref yn ddiogel
Bydd y ddau yma yn sicr yn mynd adref yn hapus - rheolwr Caernarfon Sean Eardley a seren y gêm Jamie Crowther. Ymlaen â nhw i'r wyth olaf.
Hefyd o ddiddordeb: