"Pryder" am effaith erydiad ar lwybr arfordir Cymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Mother Goose Films
Disgrifiad o’r llun,
Fe gollwyd rhan sylweddol o dir ym Mhen-caer (Strumble Head), Sir Benfro yn ddiweddar

Gall miloedd o fannau ar hyd llwybr arfordir Cymru ddiflannu dros y blynyddoedd nesaf oherwydd effaith erydiad, yn ôl swyddogion.

Mae gwaith monitro yn digwydd ar hyn o bryd ar ôl i ddarn sylweddol o dir gael ei golli o arfordir Sir Benfro.

Pryder arall yw faint o blanhigion sydd wedi tyfu ar hyd y llwybr 870 milltir o hyd.

Dywedodd un o swyddogion y llwybr, Theresa Nolan: "Os ydych chi'n anghofio am y planhigion hyn am wythnos neu ddwy mae'r llwybr yn cael ei orchuddio... mae'n fater hollbwysig o ran diogelwch."

Mae dros hanner cyllideb £150,000 Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn cael ei wario ar ddelio gyda thwf planhigion o'r fath.

Oherwydd bod rhannau helaeth o'r llwybr ar dir preifat, pan mae cerrig yn disgyn mae swyddogion yn aml yn gorfod trafod symud y llwybr gyda'r perchnogion.

Ychwanegodd Ms Nolan fod y llwybr yn mynd yn fwyfwy cul mewn rhai mannau.

Rhywbeth arall sydd wedi achosi anawsterau i rai yw nifer y camfâu, sydd wedi disgyn o 540 yn 1993 i 29, yn ôl Ms Nolan.

"Roedd hyn yn rhwystro pobl gyda cherbydau anabledd rhag cyrraedd mannau penodol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhaid addasu rhan o lwybr yr arfordir ym Mhenrhyn Gŵyr ar ôl i gerrig ddisgyn

Mae Cyngor Gwynedd, sy'n rheoli 25% (180 milltir) o lwybr arfordir Cymru, yn derbyn £169,000 gan y Llywodraeth i adfer a chynnal y llwybrau.

Dywedodd y swyddog prosiect, Rhys Roberts, fod yr awdurdod lleol wedi ychwanegu 21 milltir at y llwybr ers 2010 a'u bod nhw'n gobeithio ychwanegu 6 milltir arall erbyn 2022.

Rhai o'r anawsterau eraill mae'n rhaid delio â nhw yw cysylltu rhannau o dir sydd â gwahanol berchnogion, llunio cytundebau cyfreithiol a chodi ffensys er mwyn cadw cŵn i ffwrdd o da byw.

Ychwanegodd Mr Roberts mai un pryder arall oedd pa mor agos yw'r llwybr i'r arfordir mewn rhai mannau.

Trawsnewidiad

Mae'r llwybr arfordirol yn cyfrannu £84.7m i'r economi bob blwyddyn yn ogystal â chynnal hyd at 1,000 o swyddi.

Dywedodd Quentin Grimley o Gyfoeth Naturiol Cymru, sy'n helpu i reoli'r llwybr, mai "Sir Benfro, Penrhyn Gŵyr, Ynys Môn a Phen Llŷn yw'r ardaloedd sydd fwyaf poblogaidd gyda thwristiaid.

"Fel rheol, mae cyfleusterau mewn ardaloedd fel Casnewydd, Sir Fynwy a Sir y Fflint yn cael eu defnyddio yn amlach gan drigolion lleol."

Yn ôl y swyddog prosiect, Gruff Owen, mae arfordir "garw" Sir y Fflint wedi cael ei "drawsnewid", gyda sawl man diddorol ar hyd yr aberoedd.