Dyn fu farw wedi honni iddo 'ladd milwr, nid babi'
- Cyhoeddwyd
Clywodd llys fod dyn wedi dweud wrth gymdogion mai am lofruddio milwr, ac nid plentyn, yr oedd wedi treulio cyfnod hir yn y carchar, ddyddiau cyn iddo gael ei ladd ei hun.
Bu farw David Gaut, 54, yn ei gartref yn Nhredegar Newydd fis Awst y llynedd - wythnosau ar ôl symud i Sir Caerffili ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.
Mae tri o gymdogion Mr Gaut - Darren Eversham, 47, Ieuan Harley, 23, a David Osbourne, 51, yn gwadu llofruddiaeth.
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd bod cymydog arall, Kyle Alford, wedi darganfod y gwirionedd am drosedd Mr Gaut ar ôl ymchwilio'i achos ar y we, a rhannu'r wybodaeth gyda nifer o bobl leol, gan gynnwys dau o'r diffynyddion.
Dywedodd Mr Alford bod y ddau wedi cyfarfod pan symudodd Mr Gaut i fflat cyfagos tua diwedd Mehefin y llynedd.
Roedd Mr Gaut, meddai, wedi dweud ei fod wedi cael ei garcharu am 32 neu 33 o flynyddoedd am ladd milwr.
'Busneslyd ac amheus'
Dywedodd Mr Alford ei fod yn "fusneslyd" ac yn "amheus ynghylch pam roedd wedi bod yn y carchar am 33 o flynyddoedd" pan ddefnyddiodd ffôn ei gariad i chwilio am fwy o fanylion yn y dyddiau cyn marwolaeth Mr Gaut.
Pan ddaeth i wybod mai bachgen bach roedd ei gymydog newydd wedi ei lofruddio, fe rannodd y wybodaeth gyda Mr Osbourne a Mr Harley.
"Ro'n i wedi cael sioc, wedi ffieiddio ac yn grac," meddai Mr Alford.
Yn ôl Mr Alford, roedd Mr Harley yn feddw ar y pryd ac yn dweud ei fod wedi cymryd amffetaminau.
Roedd wedi ymateb, meddai, gan ddweud bod llofruddiaeth babi "yn codi cyfog arno".
Dywedodd wrth y rheithgor nad oedd wedi cymryd ymateb Mr Osbourne i hynny o ddifrif pan "ddywedodd Ozzy bod Ieuan eisiau ei dorri'n fân a'i roi lawr y plwg" a threfnu i'w hudo i'r fflat.
Ond roedd Mr Osbourne wedi dweud wedyn y "byddai'n cuddio yn y gegin" petaen nhw'n perswadio Mr Gaut i fyno yno oherwydd "doedd e ddim mo'yn rhan yn y peth".
'Ddim yn ei weld eto'
Yn ei ddatganiad cychwynnol i'r heddlu, roedd Mr Alford wedi dweud nad oedd Mr Osbourne wedi ymddwyn yn ymosodol - "bron fel petai ddim yn credu beth ro'n i wedi dweud wrtho."
Ond dywedodd wrth y llys fod Mr Harley wedi dweud y diwrnod canlynol "fyddan ni ddim yn gweld [Mr Gaut] eto", a bod Mr Harley yn ymddwyn yn "amheus".
Mae Mr Osborne yn cyfaddef gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy symud corff Mr Gaut a cheisio cuddio tystiolaeth. Ond mae'n gwadu llofruddiaeth.
Mae Mr Evesham a Mr Harley yn gwadu llofruddiaeth a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r achos yn parhau.