Uwch Gynghrair: Newcastle 3-0 Caerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fabian Schar oedd seren y gêm i Newcastle

Roedd dwy gôl gan yr amddiffynnwr Fabian Schär ac ergyd hwyr Ayoze Perez yn ddigon i ennill triphwynt hollbwysig i Newcastle yn St James' Park.

Er gwaethaf dechreuad digon cadarn gan yr Adar Gleision, fe aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl i Schär fanteisio ar amddiffyn llac lawr asgell chwith Caerdydd, cyn crymanu'r bel heibio Neil Etheridge.

Wedi'r gôl, Newcastle oedd yn llwyr reoli'r chwarae gydag ymosodwyr Caerdydd yn methu â chreu unrhyw gyfleodd o safon.

O gic gornel daeth yr ail gôl i Newcastle, wrth i beniad Solomon Rondon wyro oddi ar goes Schär ac i mewn i'r rhwyd.

Wrth i Gaerdydd wthio chwaraewyr ymlaen yn y munudau olaf, llwyddodd Newcastle i wrth-ymosod yn effeithiol gan alluogi Perez i sgorio'n hawdd o chwe llath.

Yn dilyn y golled mae Caerdydd yn disgyn i'r 18fed safle yn y tabl.