Canolfannau iechyd: Galw i edrych eto ar safonau iaith
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych eto ar wasanaethau Cymraeg meddygfeydd, deintyddfeydd, optegwyr a fferyllfeydd.
Ar hyn o bryd, yn groes i farn Comisiynydd y Gymraeg, does dim rhaid iddyn nhw gynnig darpariaeth Gymraeg i gleifion dan y Safonau Iaith.
Ond mae Newyddion 9 yn deall bod y Llywodraeth am edrych eto ar eu cytundebau meddygol, allai yn y dyfodol nodi eu dyletswyddau ieithyddol.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y dyletswyddau'n annigonol a bod angen eu rhoi dan y Safonau er mwyn cryfhau'r Gymraeg o fewn y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl Alaw Griffiths o Aberystwyth, sydd wedi cael trafferth dod o hyd i feddyg teulu sy'n siarad Cymraeg wrth drafod ei hiechyd meddwl, gall prinder y Gymraeg o fewn meddygfeydd fod yn "beryglus".
"Y gwahaniaeth ydi rhwng siarad fy iaith gyntaf ac fy ail iaith ydi buaswn i'n lot fwy cyfforddus, ac yn lot mwy agored i siarad yn y lle cyntaf.
"Mi wna i fynd mor bell a dweud ei fod o'n beryglus i ddim teimlo'n ddigon cyfforddus, achos mae o'n dipyn o beth i lot o bobl i godi'r ffon yn y lle cyntaf i wneud apwyntiad," meddai.
Mae'r optegydd, Sara Ward, sy'n rhedeg ei busnes ei hun yng Nghaerdydd, yn dweud byddai gosod busnesau fel ei un hi dan y safonau yn afresymol.
"Be' dwi'n poeni amdano yw busnesau lle mae neb yn gallu siarad Cymraeg, sut fuasai nhw'n gallu addasu os oedd e'n dod bod nhw'n gorfod gwneud," meddai.
"Dwi'n gallu gweld y buasai lot o drafferthion."
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu rheoliadau newydd erbyn mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2018
- 27 Tachwedd 2017